Mae lluoedd diogelwch Swdan yn parhau i gyflawni troseddau rhyfel ac i dorri rheolau hawliau dynol difrifol eraill yn rhanbarth Darfur, meddai Amnest Rhyngwladol.

Yn seiliedig ar “dystiolaeth newydd”, mae’r cam-drin yn Darfur yn digwydd dan law unedau parafilwrol Swdan, y Lluoedd RSF, yn cynnwys dinistrio pentrefi cyfan yn ogystal â llofruddio a threisio rhywiol.

“Yn Darfur, fel yn Khartoum, rydym wedi gweld creulondeb ffiaidd y RSF yn erbyn sifiliaid Swdan,” meddai Amnest, gan alw ar y Cenhedloedd Unedig a’r Undeb Affricanaidd i “beidio â throi eu cefnau ar bobol yn Darfur sy’n dibynnu ar warchodwyr heddwch i’w diogelu”.

Dywed y Cenhedloedd Unedig fod rheolwyr milwrol Swdan yn mynnu y byddan nhw’n tynnu allan y flwyddyn nesaf.

Bydd y Cenhedloedd Unedig yn pleidleisio ddiwedd y mis ar ddyfodol yr heddlu yn Swdan. Y dyddiad ar gyfer tynnu allan yn llwyr o’r wlad yw Mehefin 30, 2020.