Mae arlywydd newydd Kazakhstan wedi cael ei sefydlu yn ei swydd, ac mae’n addo dilyn yr un cwrs â’i ragflaenydd yn y gwaith o redeg y wlad yn annibynnol.

Fe dyngodd Kassym-Jomart Tokayev y llw y bore ma (dydd Mercher, Mehefin 12), dridiau ar ôl cyhoeddi canlyniad yr etholiad a enillodd gyda tua 70% o’r bleidlais.

“Mae’n rhaid cydnabod bod dinasyddion, yn yr etholiadau hyn, wedi pleidleisio dros barhad cwrs yr Elbasy,” meddai Kassym-Jomart Tokayev, gan gyfeirio at y teitl ‘arweinydd y genedl’ a roddwyd i’w ragflaenydd.

Mae’r arlywydd newydd yn dechrau yn ei waith ar gyfnod o anghydfod yn y wlad. Fe gafodd dros 500 o bobol eu harestio mewn protestiadau ar ddydd yr etholiad.