Mae heddlu Hong Kong wedi defnyddio nwy dagrau, chwistrell pupur a cnanonau dŵr yn erbyn protestwyr sydd wedi ymgasglu y tu allan i adeiladau’r llywodraeth.

Mae miloedd o brotestwyr wedi rhwystro mynediad i bencadlys y llywodraeth, gan ohirio sesiwn ddeddfwriaethol ar fesur estraddodi arfaethedig. Maen nhw’n poeni y  bydd Tsieina yn ceisio cryfhau ei gafael am Hong Kong ac yn torri’n ôl ar ryddid pobol.

Mae’n ymddangos bod yr oedi yn fuddugoliaeth dros dro o leiaf i wrthwynebwyr y mesur.

Mae’r protestiadau wedi ysgogi argyfwng gwleidyddol mwyaf Hong Kong ers i arddangosiadau pro-ddemocratiaeth gau rhannau o ganol y ddinas am fwy na thri mis yn 2014.

Ond mae’n cael ei weld fel her i Blaid Gomiwnyddol Tsieina, a’r arlywydd Xi Jinping, sydd yn y gorffennol wedi dweud na fyddai’n caniatau i Hong Kong fod yn ganolfan i herio awdurdod y blaid.

Ond maen nhw hefyd yn rhoi hwb i Hong Kong ifanc sydd wedi’u dieithrio gan broses wleidyddol sy’n cael ei dominyddu gan elit economaidd y diriogaeth.