Mae Cosofo wedi dyfarnu’r Gorchymyn Rhyddid i gyn-arlywydd yr Unol Daleithiau, Bill Clinton, am ei rôl yn helpu i ddod â rhyfel y wlad i ben 20 mlynedd yn ôl.
Fe gyflwynodd yr Arlywydd Hashim Thaci y wobr i Bill Clinton, gan ddiolch iddo am ei gyfraniad i osod “carreg sylfaen y rhyddid hwn”.
Mae Bill Clinton ynghyd â’r cyn-Ysgrifennydd Gwladol Madeleine Albright a gwleidyddion rhyngwladol eraill yn Cosofo yr wythnos hon i fynd i seremoni sy’n nodi 20 mlynedd ers i filwyr NATO atal ymgyrch waedlyd yn y wlad.
Roedd y Serbiaid yn ymosod ar genedlaetholwyr Albanaidd yn Cosofo, a oedd yn un o daleithiau Serbia.
Daeth ymgyrch fomio 78 diwrnod gan NATO â’r gwrthdaro i ben rhwng 1999, ond fe laddwyd dros 10,000 o bobol o’r ddwy ochr yn ystod yr ymladd.