Mae llywodraeth Uganda yn dweud bod claf wedi profi’n bositif am Ebola am y tro cynta’ ers i’r afiechyd gyrraedd y Congo y llynedd.

Mae’r fenyw yn dod o’r Congo ac yn byw ar y ffin rhwng Uganda a’r wlad honno.

Mae bellach dros 2,000 o achosion o Ebola wedi’u cadarnhau yn y Congo ers mis Awst y llynedd, ac mae 1,400 o bobol wedi marw o ganlyniad.

Ym mis Ebrill eleni, fe benderfynodd pwyllgor o arbenigwyr o Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) nad oedd yr achosion o Ebola yn y Congo – er ei fod yn “bryder mawr” – yn argyfwng iechyd byd-eang eto.

Mae Uganda wedi cael nifer o achosion o Ebola ers 2000.