Gall gwrthgyrff i straen risg uchel o firws papiloma dynol (HPV) ymddangos yn y corff “ddegawdau” cyn i ganser y gwddw ddatblygu, yn ôl canlyniadau ymchwil newydd.

Mae gwrthgyrff HPV16 wedi’u cysylltu â risg uwch o’r clefyd ac – mewn rhai achosion – roedden nhw’n bresennol yn y gwaed hyd at 28 mlynedd cyn y diagnosis, yn ôl astudiaeth yn y cyfnodolyn Annals of Oncology.

Mae’n un ffordd o adnabod y cleifion sydd fwyaf tebygol o ddatblygu canser y gwddw, ymhlith rhai mathau eraill.

Yn America, mae’r astydiaeth yn dweud y gellir priodoli tua 70% o achosion canser y gwddw i HPV16.

“Os bydd cyfraddau canser y gwddw yn parhau i godi yn y dyfodol, gallai’r marciwr hwn gynnig un ffordd o nodi unigolion sydd â risg uchel iawn o ddatblygu’r clefyd,” meddai Dr Mattias Johansson, arweinydd y tim ymchwil rhyngwladol.

“Bydd astudiaethau yn y dyfodol yn canolbwyntio ar y ffordd fwyaf priodol o chwilio am unigolion sy’n rhoi prawf positif ar gyfer gwrthgyrff HPV16 ac a oes ffordd o adnabod canser cyn ei fod yn datblygu.

“Hynny yw, mae ffordd bell i fynd cyn y gellir defnyddio’r biofarciwr hwn mewn practis clinigol.”