Mae barnwr yn Missouri wedi cyhoeddi gorchymyn sy’n caniatau i glinig erthylu aros yn agored, tra bod brwydr ynglŷn â thrwydded y lle yn mynd yn ei blaen.

Mae John Stelzer wedi caniatau cais Planned Parenthood i ymestyn ei orchymyn cynharach i rwystro’r wladwriaeth rhag canslo trwydded clinig St Louis.

Ym mis Mai, gwrthododd adran iechyd y wladwriaeth adnewyddu trwydded y clinig i gyflawni gweithdrefnau erthylu, gan nodi pryderon am ddiogelwch cleifion, “erthyliadau llawfeddygol aflwyddiannus” a throseddau cyfreithiol.

Fe orchmynnodd dyfarniad Mr Stelzer ddydd Llun i Adran Iechyd ac Uwch Wasanaethau Missouri benderfynu ar gais Planned Parenthood i adnewyddu ei drwydded erbyn Mehefin 21.