Mae’r cwmni technoleg o Tsieina, Huawei, wedi dweud y byddai wedi dod yn wneuthurwr ffonau clyfar mwya’r byd erbyn diwedd eleni, pe na bai am amgylchiadau “annisgwyl”.

Ymhlith y pethau hynny, y mae ymyrraeth Donald Trump, a’r rhyfel masnach rhwng America a Tsieina.

Y mis diwethaf fe wnaeth Washington osod Huawei ar y rhestr y mae cwmnïau yn yr Unol Daleithiau wedi’u hatal rhag gwerthu iddyn nhw.

Roedd y weithred yn rhan o anghydfod masnach ehangach rhwng Tsieina a’r Unol Daleithiau, sydd wedi cyhuddo cwmnïau technoleg Tsieineaidd fel Huawei o ddwyn cyfrinachau masnach a bygwth diogelwch ar-lein.

Er bod Huawei wedi gwadu y byddai’n rhannu cyfrinachau defnyddwyr â Phlaid Gomiwnyddol Tsieina, mae Donald Trump ar daith i berswadio cynghreiriaid yr Unol Daleithiau i eithrio offer Huawei o rwydweithiau symudol 5G y genhedlaeth nesaf.