Mae’r heddlu yn Sweden wedi saethu a chlwyfo dyn oedd yn bygwth pobol mewn gorsaf drenau.

 Yn ôl adroddiadau, cafodd y dyn ei atal gan yr heddlu ar ôl bod yn bygwth pobol yn yr orsaf yn ninas Malmo yn ne’r wlad.

 Cafodd y dyn ei gludo i’r ysbyty ag anafiadau.

 Dywed yr heddlu iddyn nhw anfon tîm bomiau i ymateb i’r sefyllfa.