Mae India a’r Maldives wedi addo magu perthynas fwy agos â’i gilydd yn ystod ymweliad tramor cyntaf Narendra Modi ers iddo gael ei ail-ethol yn brif weinidog India.

Mae’r cam yn newid cyfeiriad llwyr i’r Maldives, lle’r oedd y cyn-arlywydd Yameen Abdul Gayoom yn ffafrio troi at Tsieina.

Mewn datganiad ar y cyd gerbron senedd y Maldives, dywedodd Narendra Modi ac Ibrahim Mohamed Solih, arlywydd y wlad, dywedodd y ddau arweinydd mai India fyddai prif flaenoriaeth y wlad o safbwynt cysylltiadau tramor.

Mae’r ddwy wlad wedi llofnodi nifer o gytundebau ym meysydd iechyd, cludo nwydd a phobol, cyllid a thollau a sectorau eraill.

Maen nhw hefyd wedi cytuno i frwydro yn erbyn brawychiaeth, gyda’r Maldives yn wlad Foslemaidd lle mae nifer o aelodau Daesh – neu’r ‘Wladwriaeth Islamaidd’ wedi ymgartrefu ar hyd y blynyddoedd.

Ar ôl gadael y Maldives, fe fydd Narendra Modi yn teithio i Sri Lanca.