Mae peilotiaid byddin India wedi dod o hyd i bum corff yn yr Himalayas wrth chwilio am wyth dringwr sydd wedi bod ar goll ers wythnos.

Cafodd y cyrff eu darganfod heddiw (Dydd Llun, Mehefin 3) cyn i daith y gwasanaethau achub yn rhanbarth gogleddol Uttarakhand gael ei ohirio oherwydd gwynt ac eira trwm.

Roedd Martin Moran, o Tyneside yn wreiddiol, yn arwain grŵp o wyth o ddringwyr oedd yn ceisio cyrraedd copa sydd heb ei gyffwrdd, a honno mewn ardal anghysbell.

Ar eu taith i gyrraedd y copa 6,477 metr collwyd cysylltiad gyda’r gwersyll ar Fai 26 yn dilyn cwymp eira.

Cafodd pedwar dringwr o wledydd Prydain eu hachub o’r gwersyll ddoe (Dydd Sul, Mehefin 2) cyn cael eu cludo i’r ysbyty i gael triniaeth.

Fe fydd y gwasanaethau achub yn dychwelyd fory (Dydd Mawrth, Mehefin 3) i geisio darganfod y tri mynyddwr arall.