Mae trefnwyr protest ym mhrifddinas Sudan yn honni bod lluoedd arfog y wlad wedi lladd o leiaf pump o bobol yno.

Yn ystod protest yn Khartoum cafodd bwledi a ffrwydron eu tanio tuag at y dorf, yn ol adroddiadau.

Daw’r weithred gan y fyddin ar ôl protest sydd wedi parhau am wythnos. Mae’r protestwyr yn lleisio eu gwrthwynebiad i’r arweinydd Omar al-Bashir ac yn galw arno i roi grym i’r bobol.

Yn ôl Dura Gambo sydd wedi bod yn rhan o’r brotest, roedd milwyr wedi gosod gwarchae yn yr ardal gan arestio protestwyr wrth iddynt geisio gadael.

Mae Cymdeithas Meddygon Sudan yn adrodd bod o leiaf dau o bobol wedi’u lladd yn gynnar heddiw (Dydd Llun, Mehefin 3).