Mae llys yn Irac wedi dedfrydu dau o drigolion Ffrainc i farwolaeth am fod yn aelodau o Daesh – neu’r ‘Wladwriaeth Islamaidd’.

Mae’n dilyn beirniadaeth o’r ffordd mae ymladdwyr o dramor yn Syria yn Irac yn cael eu trin.

Mae grwpiau hawliau dynol yn gofidio eu bod nhw’n cael eu herlyn yn rhy gyflym, sy’n codi cwestiynau am gyfiawnder.

Maen nhw’n aml yn cael eu collfarnu ar sail cyfaddefiadau sy’n cael eu gorfodi trwy drais, bygythiadau ac arteithio.

Y diweddaraf i gael eu dedfrydu i farwolaeth yw Fadil Hamad Abdallah, 33, a Vianney Jamal Abdelqader, 29.

Dywedodd Fadil Hamad Abdallah iddo gael ei arteithio, ond cafodd yr honiadau eu gwrthod gan bwyllgor meddygol.

Mae Ffrainc yn dweud eu bod yn bwriadu ymladd yn erbyn y ddedfryd.