Mae capten llong bleser wedi cael ei arestio yn dilyn gwrthdrawiad angheuol gyda chwch ar yr Afon Donwy yn Bwdapest.

Mae timau achub yn Hwngari wedi bod yn chwilio’r afon am 21 o bobl sy’n dal ar goll ar ôl i’r cwch oedd yn cludo ymwelwyr o Dde Corea suddo o fewn eiliadau ar ôl gwrthdaro a’r llong bleser.

Mae saith o bobl wedi marw a chafodd saith o bobl eraill eu hachub.

Dywedodd yr heddlu yn Hwngari bod capten y llong o’r Wcráin, sy’n 64 oed, yn cael ei amau o beryglu trafnidiaeth dwr gan arwain at ddamwain angheuol.

Yn unol â chyfreithiau Hwngari, mae’n cael ei adnabod fel Yuriy C yn unig.

Yn ol y cwmni teithio o Dde Corea oedd wedi trefnu’r daith, roedd y cwch yn dychwelyd ar ol taith gyda’r nos pan ddigwyddodd y ddamwain nos Fercher.

Mae 19 o bobl o Dde Corea a dau aelod o’r criw o Hwngari yn dal ar goll.