Mae barnwr ffederal wedi atal Donald Trump, Arlywydd yr Unol Daleithiau, rhag defnyddio arian brys i godi rhannau o’i wal ddadleuol ar y ffin â Mecsico.

Fe gyhoeddodd e argyfwng ym mis Chwefror er mwyn cael derbyn biliynau o ddoleri ar gyfer y prosiect, ac fe arweiniodd hynny at gau’r llywodraeth am gyfnod.

Roedd disgwyl iddo geisio defnyddio’r arian er mwyn trwsio hyd at 51 milltir o ffens mewn dau le.

Ond fe gafodd y cynllun ei wrthwynebu yn y llysoedd gan sawl mudiad ar y ffin rhwng y ddwy wlad.

Mae Donald Trump yn wynebu sawl achos llys ar hyn o bryd mewn perthynas â’r wal, sydd eisoes wedi derbyn 1.375 biliwn o ddoleri er mwyn cwblhau gwaith cynnal a chadw yn nhalaith Tecsas, lle mae nifer o fawr o fewnfudwyr yn cyrraedd yr Unol Daleithiau.

Ceisiodd Donald Trump symud arian o brosiectau milwrol, gwrth-gyffuriau a’r Trysorlys er mwyn ceisio osgoi gorfod cael sêl bendith y Gyngres.

Pe na bai’r llys wedi ei atal, roedd disgwyl i’r gwaith ar y ffin ddechrau heddiw (dydd Sadwrn, Mai 25).