Mae 216 o ffoaduriaid wedi cael eu hachub o’r Môr Canoldir oddi ar arfordir ynys Melita.

Roedden nhw ar ddau gwch oedd wedi mynd i drafferthion neithiwr (nos Wener, Mai 24).

Byddan nhw’n derbyn triniaeth gan feddygon cyn cael y cyfle i geisio lloches.

Roedd menywod a phlant yn eu plith, yn ôl adroddiadau’r wasg ar yr ynys.

Mae o leiaf 12 o gychod wedi croesi’r môr dros y dyddiau diwethaf, a hynny yn sgil y tywydd braf.

Mae lle i gredu bod y cychod yn teithio o Libya, Tiwnisia ac Algeria.

Mae oddeutu 390 o ffoaduriaid wedi cyrraedd y lan ym Melita eleni, yn ôl ystadegau.