Mae 13 o bobol wedi cael eu hanafu yn dilyn ffrwydrad ar stryd brysur yn Lyon yn Ffrainc.

Mae’r heddlu’n chwilio am y sawl oedd yn gyfrifol, ar ôl i becyn o ffrwydron gael eu gadael ar stryd brysur.

Maen nhw wedi cyhuddo llun camera cylch-cyfyng o’r dyn sydd dan amheuaeth.

Roedd e’n gwisgo siorts lliw golau a thop tywyll, ac mae’n cael ei ddisgrifio fel dyn “peryglus”.

Mae 11 o bobol yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty o hyd.

Mae’r awdurdodau’n cynnal ymchwiliad, ond dydyn nhw ddim yn gwybod beth oedd y rheswm am yr ymosodiad ar hyn o bryd.