Mae rhuthr mawr yn Taiwan heddiw (dydd Gwener, Mai 24) ar ddiwrnod cyntaf cyfreithloni priodi rhwng pobol o’r un rhyw.

Ers y bore yma mae cyplau hoyw yn heidio i’r swyddfa gofrestru i briodi.

Taiwan yw’r wlad gyntaf yn Asia i ganiatáu hyn ar ôl pleidlais yr wythnos ddiwethaf.

Daw hyn yn dilyn ugain mlynedd o  ymgyrchu ar yr ynys i’w wneud yn gyfreithlon.

Mae nifer o gyplau eisiau cadw eu henwau yn gyfrinachol wrth bryderu am y stigma sy’n parhau o gwmpas bod yn hoyw yn Taiwan.

Yn ôl Swyddfa Gartref Taiwan mae disgwyl i 300 o gyplau hoyw gofrestru erbyn diwedd y dydd heddiw.