Mae Prif Weinidog India wedi diolch ei ddinasyddion wrth iddo hawlio buddugoliaeth yn etholiad cyffredinol y wlad.

“Diolch India!” meddai Narendra Modi. “Mae eich ffydd yn rhoi cryfder i ni. Ac mae’n ein hannog i weithio’n galetach i wireddu’ch amcanion.”

Dyw canlyniadau llawn yr etholiad ddim wedi cael eu cyhoeddi eto, ond mae disgwyl i’w blaid, Bharatiya Janata (BJP), ennill tua 300 o seddi.

Mae yna 543 sedd yn senedd India, ac mae angen i blaid – neu glymblaid – ennill o leiaf 272 o seddi er mwyn llywodraethu.

Bellach mae arweinyddion Israel, Tsieina, Pacistan a Sri Lanka wedi llongyfarch Narendra Modi yn sgil yr etholiad.

Ac mae Rahul Gandhi, llywydd Plaid y Gyngres – prif her y BJP – wedi cydnabod bod ei blaid wedi methu ag ennill digon o seddi.