Ar ôl treulio dwy flynedd dan glo heb achos llys, mae disgwyl i newyddiadurwr gael ei ryddhau o garchar yn yr Aifft.

Roedd Mahmoud Hussein, newyddiadurwr gydag Al-Jazeera, wedi cael ei gyhuddo o ledu ffug newyddion ac o bardduo enw da’r Aifft.

Ond cafodd dim cyhuddiadau swyddogol ei gyflwyno iddo, a chafodd dim achos llys ei chynnal. Bellach mae llys wedi gorchymyn ei fod yn cael ei rhyddhau.

Mae Mahmoud Hussein yn hanu o’r Aifft, a chafodd ei arestio yng Nghairo yn 2016 ar ôl glanio cyrraedd awyr y ddinas – roedd wedi teithio yno o Qatar.

Mae ei ferch wedi dweud ar Facebook ei fod wedi cael ei ryddhau “dan amodau”. Y tebygrwydd yw bod hynny’n golygu bydd yn rhaid iddo ymweld â’r heddlu yn rheolaidd.