Mae eithafwyr Islamaidd wedi ffrwydro bom car ger palas arlywyddol ym mhrifddinas Somalia gan ladd naw, gan gynnwys cyn gweinidog tramor Hussein Elabe Fahiye.

Yn ôl y Capten Mohamed Hussein o fyddin Somalia mae 13 arall wedi cael eu hanafu ac mae’r mwyafrif o’r rhai sydd wedi brifo yn filwyr.

Mae’r grŵp eithafol o Somalia, al Shabab yn cymryd cyfrifoldeb am y ffrwydrad ym Mogadishu ac yn dweud mai cerbydau’r Llywodraeth oedd eu targed.

Fe ffrwydrodd y bom mewn car mewn man gwirio diogelwch ger y palas wrth i filwyr gynnal archwiliadau diogelwch ar gerbydau.