Mae Iran yn paratoi i gynhyrchu pedair gwaith yn fwy o wraniwm o ganlyniad i’r tensiynau rhyngddi hi a’r Unol Daleithiau.

Daw’r cyhoeddiad ar ôl i arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, a gweinidog tramor Iran fygwth ei gilydd ar Twitter.

Yn ôl swyddogion Iran, fydd y wlad ddim yn cynyddu’r cynhyrchiant o wraniwm o fwy na 3.67% – sef y terfyn eithaf sydd wedi’i bennu o dan gytundeb niwclear byd eang yn 2015.

Mae’n golygu fe all y wraniwm fod y ddefnyddiol i orsaf bŵer, ond o ran creu arf niwclear mae’n llawer rhy isel.

Er hynny, wrth gynyddu cynhyrchiant, fe fydd Iran yn fuan yn mynd heibio’r terfyn eithaf sydd o stoc wraniwm sydd yn y cytundeb niwclear.

Mae Tehran wedi rhoi tan Orffennaf 7 i Ewrop osod termau newydd i’r cytundeb cyn iddi gynyddu’r cynhyrchiant i lefelau a fyddai’n addas ar gyfer gwneud arfsu.