Mae heddlu Seland Newydd wedi cyhuddo’r dyn sydd o dan amheuaeth o ladd 51 o bobol yn ninas Christchurch o frawychiaeth.

Mae swyddogion wedi cyhuddo Brenton Tarrant, 28, o Awstralia o gymryd rhan mewn gweithred frawychol ar ôl y saethu ar Fawrth 15.

Daw’r cyhuddiad gyda’r gosb uchaf o garchar am oes, ac fe fydd yn achos prawf ar gyfer cyfreithiau brawychiaeth Seland Newydd a ddaeth i rym yn 2002.

Ar ben hynny, mae Brenton Tarrant wedi cael cyfrif ychwanegol o 51 llofrddiaeth.

Cafodd teuluoedd y rhai a fu farw a’r goroeswyr eu hysbysu gan yr heddlu am y taliadau newydd mewn cyfarfod a fynychwyd gan dros 200 o bobol.