Mae un o ddiplomyddion Sawdi Arabia yn rhybuddio y bydd ei wlad yn dal ei thir yn gadarn yn y tensiynau gydag Iran.

Tra bod ei wlad yn awyddus i osgoi rhyfel, meddai Adel al-Jubeir, fe fydd hi’n “ei hamddiffyn ei hun”.

Wythnos yn ôl, fe gafodd.pedair tancer olew eu targedu yn honedig gan Iran oddi at arfordir yr Emiradau Arabaidd Unedig – a hynny ddyddiau’n unig wedi i wrthryfelwyr o Yemen, gyda chefnogaeth honedig Iran, hawlio cyfrifoldeb am ymosodiad drôn ar un o bibellau olew Sawdi Arabia.

Mae ymchwiliad ar y gweill yn y Gwlff i geisio sefydlu beth yn union ddigwyddodd i’r tanceri.

Mae disgwyl i weinidogion o bob un o wledydd olew yr ardal.gyfarfod yn Sawdi Arabia ddydd Mawrth (Mai 21).