Mae clymblaid geidwadol Awstralia wedi achosi dipyn o sioc wedi iddi ennill etholiad cyffredinol y wlad.

Mae wedi llwyddo i fynd yn groes i’r holl disgwyliadau, gan fod y polau piniwn i gyd wedi rhagweld y byddai ei gwrthwynebwyr yn ei threchu.

Ond fe ildiodd arweinydd y Blaid Lafur, Bill Shorten, yn hwyr nos Sadwrn (Mai 18) wrth i glymblaid ryddfrydol y prif weinidog Scott Morrison ddod yn agos i ennill mwyafrif yn Nhy’r Cynrychiolwyr.

Mae’r gwaith o gyfri’r pleidleisiau yn parhau heddiw (dydd Sul, Mai 19), ond mae rhagolygon yn awgrymu fod gan y ceidwadwyr 74 allan o 151 o seddi, gyda Llafur ar 65 a 12 heb eu penderfynu.

Mar angen 76 o seddi er mwyn ffurfio llywodraeth fwyafrifol.