Mae cenedlaetholwyr yng Ngwlad y Basg yn ofni y gallai arestio un o arweinwyr y grŵp brawychol, ETA, wneud drwg i’r broses heddwch yno.

Mae hyd yn oed un o’i brif wrthwynebwyr wedi dweud bod Josu Urrutikoetxea yn un o’r rhai oedd wedi arwain ETA oddi wrth drais ar ôl bod yn gyfrifol am ladd tua 850 o bobol rhwng 1959 a 2010.

Fe ddaeth y cyhoeddiad y bore yma gan Swyddfa Gartref Sbaen fod yr arweinydd – sy’n cael ei nabod wrth yr enw Josu Ternera – wedi cael ei arestio ar ôl bod ar ffo ers 2002.

Roedd Gwarcheidwaid Sifil Sbaen a swyddogion cudd o Ffrainc wedi dod o hyd iddo yn rhanbarth Aplau Dwyreiniol Ffrainc.

“Allweddol yn y broses heddwch”

Cymysg yw’r ymateb i’r digwyddiad wedi bod yn gymysg yng Ngwlad y Basg ei hun, yn benna’ oherwydd ei fod wedi arwain mudiad ETA at heddwch trwy drafodaethau yng Ngenefa.

“Mae’r arestio yn annisgwyl ond dyw e ddim yn syndod chwaith,” meddai newyddiadurwr o Wlad y Basg, Iñaki Larrañaga, gan esbonio bod cred gyffredinol ei fod mewn lle diogel ac nad oedd yr awdurdodau’n chwilio amdano bellach.

“Ar Radio Euskadi (gorsaf Gwlad y Basg), dywedodd un o gynrychiolwyr Llywodraeth Sbaen yn y trafodaethau gydag ETA mai Urrutikoetxea yw ‘arwr y tynnu’n ôl’ a’r allwedd i droi ETA at heddwch.

“Mae dwy blaid – Sortu a EH Bildu wedi cyhuddo Sbaen o geisio tanseilio heddwch er fod y rhan fwya’ o bleidiau’n derbyn y peth yn ffaith gyfreithiol. Mae mudiadau tros heddwch yn gweld hyn yn gam yn ôl ond dydyn ni ddim yn disgwyl canlyniadau mawr.”

“Cwbl gyfreithlon”

“Mae’r arestio yma yn gwbl gyfreithlon,” meddai Iñaki Larrañag. “Mae’n rhywbeth y bydd dioddefwyr trais ETA yn ei werthfawrogi.

“Ond mae’n amlwg yn carcharu rhywun allweddol tros heddwch, yn gwaradwyddo cefnogwyr ETA a fydd e ddim yn helpu i wella clwyfau cymdeithas sydd wedi bod yn rhanedig ers amser maith ac sy’n cymryd camau mawr at gyflwr newydd o heddwch.”