Mae dyn Mwslimaidd wedi cael ei ladd a dwsinau o siopau a mosgiau wedi cael eu dinistrio yn Sri Lanca.

Ffordd o ddial am ymosodiadau Sul y Pasg (Ebrill 21) a laddodd 250 o bobol yw hyn, dywed aelod cabinet y wlad.

Yn ôl Rauff Hakeem, arweinydd Cyngres Mwslemiaid Sri Lanca, cafodd y dyn ei daro i farwolaeth ddoe (Dydd Llun, Mai 13) yng Ngogledd Orllewin Sri Lanca pan aeth grwpiau ethnig Sinhalese ati i ymosod ar siopau a chartrefi Mwslimaidd.

Mae adroddiadau bod trais tebyg yn cael ei weld yng Ngorllewin Sri Lanca hefyd.

Yn dilyn ymosodiadau Sul y Pasg ar dair eglwys a tri gwesty mae Mwslemiaid wedi bod yn profi sylwadau treisgar ar y cyfryngau cymdeithasol.

Fe gymerodd ISIS gyfrifoldeb am yr ymosodiadau wnaeth gael eu cynnal gan Fwslemiaid radical lleol.