Mae’r naturiaethwr a’r darlledwr Syr David Attenborough yn dweud bod llygredd plastig yn “drychineb” rydym yn ei anwybyddu, gan rybuddio bod angen “ymateb byd eang,” i daclo’r broblem.

Daw’r galwad gan y naturiaethwr ac ymgyrchydd bywyd gwyllt ar ôl i fagiau a mathau eraill o blasting cael eu darganfod ar waelod y môr.

Fe dorrodd yr anturiaethwr Victor Vescovo record newydd am ddyfnder ei ddeif 11 cilomedr i waelod y Môr Tawel.

Yno, daeth o hyd i fathau newydd o greaduriaid y môr, ond hefyd i fagiau plastig a deunydd lapio losin.

“Trychineb”

“Nawr yw’r amser” i arweinwyr y byd gymryd camau ar wastraff plastig, yn ôl Syr David Attenborugh.

“Rwyf wedi gweld fy hun effeithiau llygredd plastig ar rai o rywogaethau a llefydd naturiol mwyaf gwerthfawr ein planed – trychineb sy’n datblygu sydd wedi cael ei anwybyddu am gyfnod rhy hir,” meddai.

Mae hyd at filiwn o rywogaethau o blanhigion ac anifeiliaid mewn perygl o ddiflannu mwy nag erioed o’r blaen yn ein hanes, dywed asesiad byd-eang gan y Cenhedloedd Unedig.

Yn ôl yr astudiaeth mae llygredd plastig wedi cynyddu 10 gwaith yn ein moroedd ers 1980, gan niweidio crwbanod, adar môr a mamaliaid.