Mae dyn wedi cael ei ladd a dau arall, gan gynnwys bachgen 5 oed, wedi cael eu hanafu ar ôl i berson danio gwn atyn nhw yn Fflorida.

Fe ddigwyddodd y saethu yn safle gwyliau Donald Trump – y Trump International Beach Resort Miami yn Sunny Isles Beach.

Aeth yr heddlu yno i ddarganfod cerbydau gyda thyllau bwledi ynddyn nhw. Yna cafodd dynes 19 oed ei darganfod yn un o’r cerbydau gydag anaf o fwled.

Eiliadau yn ddiweddarach, clywodd yr heddlu fod dyn 43 oed o’r enw Mohammed Jradi wedi cael ei ladd ar ôl cael ei saethu yn ei ben.

Cafodd bachgen 5 oed hefyd ei anafu gan fwled ond nid yw mewn cyflwr difrifol.