Mae ymchwiliad ar y gweill ar ôl i dri chorff a dau fwa croes gael eu canfod mewn gwesty yn yr Almaen.

Daeth staff y gwesty o hyd i’r cyrff a’r bwâu mewn ystafell yn y gwesty yn Passau.

Mae lle i gredu mai cyrff dyn 53 oed, a dwy ddynes, 33 a 30 oed yw’r rhai y cafwyd hyd iddyn nhw, a phob un ohonyn nhw’n byw yn yr Almaen.

Dydy hi ddim yn glir beth yw eu perthynas, beth ddigwyddodd iddyn nhw na sut y bu’r tri farw.