Mae mwy na miliwn o bobol wedi gorfod gadael eu cartrefi wrth i storm drofannol daro arfordir dwyreiniol India.

Mae Seiclôn Fani bellach wedi cyrraedd y tir, gyda gwyntoedd cryfion yn cyrraedd cyflymdra o 125 milltir yr awr.

Yn ôl yr awdurdodau, mae tua 1.2m o bobol wedi gorfod gadael eu cymunedau mewn rhannau o Odisha er mwyn cael lloches.

Dyma’r storm fwyaf pwerus i daro’r ardal – a’r wlad gyfan – ers 1999, pan gafodd tua 10,000 o bobol eu lladd.

Mae’r maes awyr yn Kolkata yn West Bengal wedi gorfod cau ar drothwy’r storm, ac mae o leiaf 200 o drenau wedi eu gohirio ledled India.