Mae’r rhedwraig Caster Semenya wedi colli achos yn erbyn corff llywodraethu athletau sy’n golygu ei fod nawr yn gallu cyfyngu ar lefelau testosteron ymhlith rhedwyr benywaidd.

Roedd Caster Semenya, sydd o Dde Affrica, wedi herio’r Llys Cyflafareddu Chwaraeon yn erbyn rheolau newydd y Gymdeithas Ffederasiynau Athletau Rhyngwladol (IAAF).

Dywed y rhedwraig, 28, fod ganddi “bryderon difrifol ynghylch y defnydd ymarferol” yn y dyfodol o’r rheolau newydd.

Yn ôl hithau mae’r rheolau yn “annheg” ac mae hi eisiau “rhedeg yn naturiol, y ffordd y cefais fy ngeni.”

Nawr fe fydd hithau, ynghyd ag athletwyr eraill gyda gwahaniaethau mewn datblygiadau rhywiol (DSD), gymryd meddyginiaeth i gwblhau rasys 400 metr i filltir, neu newid eu categori.