Mae cyfnod newydd ar fin cychwyn yn Japan wrth i Ymerawdwr Akihito ymddeol o’i swydd.

Bydd y gŵr, 85, sydd wedi bod ar yr orsedd ers 1989, yn dod â’i deyrnasiad i ben am hanner nos heddiw (dydd Mawrth, Ebrill 30), cyn trosglwyddo’r awenau i’w fab, Naruhito.

Mae disgwyl i’r Tywysog Coronog gael ei wneud yn ymerawdwr yfory.

Ar ôl ymddeol, fe fydd Akihito yn cael ei adnabod fel ‘ymerawdwr emeritws’, sy’n golygu na fydd ganddo unrhyw ddyletswyddau swyddogol i’w cyflawni.

Ni fydd chwaith yn bresennol yn seremoni olynu ei fab, er mwyn osgoi ymyrryd â’r ymerawdwr newydd.

Yn ystod ei deyrnasiad, mae Akihito yn cael ei gofio fel ymerawdwr a geisiodd creu perthynas agosach rhwng y teulu brenhinol a phobol Japan.