Mae trigolion Sbaen yn pleidleisio yn etholiadau’r wlad heddiw (dydd Sul, Ebrill 28) wrth i’r prif weinidog Pedro Sanchez wynebu dyfodol ansicr yn y swydd.

Hwn yw’r trydydd etholiad cyffredinol mewn pedair blynedd yn y wlad, lle mae cenedlaetholdeb ceidwadol ar gynnydd, a lle mae trigolion Catalwnia yn gwthio am annibyniaeth.

Mae disgwyl i’r prif weinidog ennill, ond dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd a fydd gan ei blaid Sosialaidd fwyafrif yn y senedd.

Mae Sbaenwyr yn ddig ar hyn o bryd oherwydd cyflwr yr economi, yr hinsawdd wleidyddol a thwf yr asgell dde eithafol.

Daw’r etholiad ar ôl i ddwy blaid, gan gynnwys un sydd o blaid annibyniaeth i Gatalwnia, wrthod Cyllideb y prif weinidog.