Mae milwyr yn Sir Lanca wedi bod yn brwydro yn erbyn grŵp o ddynion sy’n cael eu hamau o fod yn gyfrifol am yr ymosodiadau dros benwythnos y Pasg, yn ôl byddin y wlad.

Daw yn sgil adroddiadau am ffrwydrad mewn yn ardal Sammanturai yn nwyrain y wlad. Mae’r ddinas arfordirol tua 200 milltir o brifddinas Sri Lanca, Colombo.

Roedd grwpiau lleol sydd â chysylltiadau a’r Wladwriaeth Islamaidd wedi cynnal cyfres o ymosodiadau ar eglwysi a gwestai moethus yn ardal Colombo ar Sul y Pasg (Ebrill 21).

Yn ôl yr awdurdodau, bu farw cannoedd o bobol o ganlyniad i’r gyfres o ffrwydradau gan hunan-fomwyr.