Daeth i’r amlwg bod y dyn oedd yn cael ei amau o arwain y grŵp eithafol wnaeth ffrwydro bomiau yn Sri Lanca ar ddydd Sul (Ebrill 21) wedi marw yn yr ymosodiadau.

Bu farw 360 yn y bomio ac fe gafodd y brawychwyr gefnogaeth ISIS.

Yn ôl heddlu Sri Lanca, roedd arweinydd y grŵp, Towheed Jamaat – oedd yn adnabyddus am ei areithiau eithafol ar y cyfryngau cymdeithasol – wedi cael ei ladd yn un o’r naw o fomiau a ffrwydrodd mewn gwesty.

Mae’r heddlu yn dweud eu bod wedi arestio dirprwy arweinydd y grŵp hefyd.

Dywedwyd fod archwilwyr wedi darganfod bod hyfforddiant yr ymosodwyr wedi cael ei arwain gan ddyn a elwir yn “Army Mohideen.”

Bu yntau yn hyfforddi’r ymosodwyr sut i ddefnyddio arfau dros y môr mewn lleoliadau yn Rhanbarth Dwyreiniol Sri Lanca.

Mae Prif Weinidog Awstralia, Scott Morrison, wedi dweud heddiw (Dydd Gwener, Ebrill 26) bod cadarnhad fod yr ymosodwyr wedi derbyn cefnogaeth ISIS – sydd wedi hawlio’r cyfrifoldeb am y dinistr.