Mae tad dau fab sy’n cael eu hamau o’r bomio yn Sri Lanca ddydd Sul y Pasg (Ebrill 21) wedi cael ei arestio o dan amheuaeth o’u helpu.

Daw’r newyddion wrth i bobol y wlad boeni bod ymosodiad arall ar y gweill dyn dilyn y ffrwydradau a laddodd ragor na 350 o bobol.

Mae cyn-bennaeth y fyddin, Jayanath Colombage, sydd nawr yn arbenigwr ar frawychiaeth, wedi cadarnhau bod tad wedi ei arestio.

Ond mae’n aneglur a oedd y tad neu ei gartref, lle bu farw tri swyddog yr heddlu mewn ffrwydrad ddydd Sul, wedi bod dan oruchwyliaeth cyn yr ymosodiadau.

“Ddim yn disgwyl hyn”

Y gred yw bod llawer sydd o dan amheuaeth o’r bomio yn dod o deuluoedd cyfoethog ac yn byw mewn ardal lewyrchus o’r brifddinas, Colombo.