Mae disgwyl i arlywydd Ffrainc, Emmanuel Macron, gyhoeddi ei gynlluniau i geisio dod â phum mis o brotestiadau’r festiau melyn i ben.

Mewn araith ym mhalas arlywyddol Elysee, mae disgwyl iddo draddodi araith wedi ei seilio ar dri mis o drafodaethau cenedlaethol.

Yn y cyfnod hwnnw mae’r arlywydd wedi bod yn cynnal cyfarfodydd mewn neuaddau trefol ac yn casglu sylwadau ar-lein.

Mae disgwyl iddo ymateb i bryderon yn ymwneud ag effaith toriadau mewn trethi ar aelwydydd incwm isel, yn ogystal â’r wlad i wella pensiynau a rhoi mwy o gymorth i rieni sengl.

Mae’r protestwyr yn credu fod Emmanuel Macron yn ffafrio’r cyfoethog ac maen nhw’n galw am fwy o degwch cyflogau.