Mae 11 o weithwyr wedi marw, tra bod dau arall wedi’u hanafu’n ddifrifol, wedi i lifft mewn safle adeiladu gwympo ar safle adeiladu yng ngogledd Tsieina.

Fe dorrodd cebl y lifft gan achosi iddo blymio i’r llawr, yn ôl adroddiadau.

Y ddamwain yn ninas Hengshui yn rhanbarth Hebei yw’r ddiweddaraf mewn cyfres o ddamweiniau yn ddiweddar.

Ym mis Mawrth, cafodd 78 o bobol eu lladd mewn ffrwydrad mewn gorsaf gemegol yn ninas Yncheng oedd a nifer o wallau diogelwch.

Ym mis Tachwedd y llynedd hefyd, cafodd o leiaf 22 e lladd mewn ffrwydrad tu allan i orsaf gemegol yn ninas Zhangjiakou.