Mae Kim Jong Un, arweinydd Gogledd Corea, wedi cyrraedd Rwsia ar gyfer uwchgynhadledd â Vladimir Putin, arweinydd y wlad.

Mae’n dweud ei fod yn gobeithio cael cyfarfod “llwyddiannus a defnyddiol” wrth geisio datrys sefyllfa’r wlad ym mhenrhyn Corea.

Fe gafodd ei groesawu â bara a halen yng ngorsaf drenau Khasan.

Cafodd e gyfarfod ag un o weinidogion Rwsia cyn mynd am Vladivostok, lle bydd yn cwrdd â Vladimir Putin yfory (dydd Iau, Ebrill 25).

“Rwy wedi clywed llawer am eich gwlad ac wedi breuddwydio ers amser hir am ymweld â hi,” meddai wrth gyrraedd Rwsia.

“Aeth saith mlynedd heibio ers i fi gymryd yr awenau, a dim ond nawr rwy’n llwyddo i ymweld.”

Uwchgynhadledd

Mae lle i gredu y bydd yr uwchgynhadledd rhwng y ddau arweinydd yn canolbwyntio ar raglen niwclear Gogledd Corea.

Gobaith Rwsia, yn ôl pob tebyg, yw adeiladu ar y cyfarfodydd rhwng Kim Jong Un a Donald Trump, arlywydd yr Unol Daleithiau.

Daeth yr ail gyfarfod rhyngddyn nhw i ben heb gytundeb yn dilyn anghydfod tros sancsiynau.

Mae’r Unol Daleithiau’n gwrthod dileu’r sancsiynau hyd nes bod Gogledd Corea’n cymryd rhagor o gamau i ddileu eu harfau niwclear.