Mae chwech o bobol wedi marw mewn damwain awyren yn Tecsas, America.

Fe blymiodd yr awyren i’r ddaear toc cyn 9yb ddydd Llun, Ebrill 22, wrth iddi geisio glanio ym maes awyr Kerrville, tua 70 milltir o San Antonio.

Cafodd y peilot a’r pump person oedd ar yr awyren, eu lladd.

Roedd y Beechcraft BE58 wedi teithio o faes awyr y tu allan i Houston yn gynharach yn y dydd, ac wedi disgyn i’r ddaear tua chwe milltir i’r gogledd o faes awyr Kerrville.