Mae rhai o brotestwyr festiau melyn Paris wedi cythruddo’r heddlu drwy alw arnyn nhw i ladd eu hunain.

Fe fu gwrthdaro bron bob penwythnos ers pum mis, wrth i’r protestwyr ddangos eu dicter ynghylch polisïau’r llywodraeth.

Cafodd rhai o’r protestwyr eu clywed yn bloeddio “Lladdwch eich hunain!” wrth i’r heddlu saethu nwy ddagrau a bwledi rwber atyn nhw.

Mae cynnydd erbyn hyn yn nifer y plismyn sy’n lladd eu hunain o ganlyniad i bwysau’r swydd.

Mae undebau’r heddlu’n beirniadu geiriau’r protestwyr, ac mae un o weinidogion llywodraeth Ffrainc yn dweud bod eu gweithredoedd yn “warthus”.