Mae’r Arlywydd Michael D Higgins yn arwain digwyddiad i goffáu Gwrthryfel y Pasg 1916 yn Iwerddon.

Mae’r digwyddiad yn cael ei gynnal yn Stryd O’Connell yn y brifddinas Dulyn.

Fe fydd y Prif Weinidog Leo Varadkar a Paul Kehoe, y Gweinidog Amddiffyn, hefyd yn bresennol y tu allan i Swyddfa’r Post.

Bydd y Fyddin, y Llu Awyr a’r Llynges hefyd yn cael eu cynrychioli.

Bydd baner Iwerddon ar Swyddfa’r Post yn cael ei gostwng am 12 o’r gloch, ac anerchiad yn cael ei roi gan y Lluoedd Amddiffyn.

Bydd yr Arlywydd yn gosod blodau er cof am y rhai fu farw, a bydd munud o dawelwch yn dilyn.

Bydd awyrennau’r Llu Awyr yn hedfan dros y digwyddiad.

Mae gwasanaeth wedi’i gynnal ym mynwent Glasnevin heddiw.