Mae’r Pab Ffransis yn dathlu’r Pasg yn y Fatican, ond wnaeth e ddim pregethu ar Sul y Pasg ar ôl wythnos brysur.

Fe wnaeth e arwain gwylnos neithiwr (nos Sadwrn, Ebrill 20).

Ond roedd e’n bresennol ar gyfer y llith yn Sgwâr San Pedr sy’n nodi atgyfodiad Crist.

Ar drothwy’r Pasg eleni, mae’r Eglwys wedi wynebu’r tân yn Eglwys Gadeiriol Notre Dame yn Paris a’r ymosodiadau brawychol yn Sri Lanca.

Dros y dyddiau diwethaf, fe fu’r Pab yn ymweld â charchar ger Rhufain i olchi traed carcharorion, gorymdaith Gwener y Groglith yn y ddinas a’r gwylnos neithiwr.