Mae digrifwr yn herio Arlywydd yr Wcráin wrth i bobol yn y wlad fynd i’r gorsafoedd pleidleisio heddiw (dydd Sul, Ebrill 21).

Fe fu’r digrifwr Volodymyr Zelenskiy ymhell ar y blaen i’r Arlywydd Petro Poroshenko mewn polau piniwn am y rhan fwyaf o’r cyfnod ymgyrchu.

Mae lle i gredu bod pleidleiswyr wedi cael digon ar dwyll, economi wan a brwydr yn erbyn gwrthryfelwyr Rwsiaidd yn nwyrain y wlad sydd wedi para pum mlynedd.

Enillodd y digrifwr ddwbwl nifer pleidleisiau’r arlywydd yn y rownd gyntaf dair wythnos yn ôl.

Fel un o’i gymeriadau, mae Volodymyr Zelenskiy wedi dod i amlygrwydd ar ôl i fideo ohono’n beirniadu twyll ddod i’r golwg. Fe fu’n ymgyrchu’n bennaf ar ei dudalen Instagram, lle mae ganddo fe 3.7 miliwn o ddilynwyr.