Mae’r awdurdodau’n dweud bod dros 100 o bobol wedi’u lladd a channoedd yn rhagor wedi’u hanafu yn dilyn cyfres o ymosodiadau brawychol ar westai ac eglwysi yn Sri Lanca ar Sul y Pasg.

Mae lle i gredu bod o leiaf ddau ymosodiad gan hunanfomiwr ymhlith yr ymosodiadau ar dri gwesty a thair eglwys.

Mae adroddiadau yn Colombo yn dweud bod 138 o bobol wedi’u lladd, a bod dros 500 yn yr ysbyty.

Dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd a oes yna bobol o wledydd Prydain ynghlwm wrth y digwyddiad, ond mae’r Swyddfa Dramor wedi cyhoeddi cyngor i unrhyw un sydd wedi teithio i’r wlad.

Mae gofyn i deithwyr ddilyn cyngor yr awdurdodau lleol, a gwirio cyngor teithio am y newyddion diweddaraf.