Mae Facebook wedi gwahardd llu o grwpiau ac unigolion sy’n arddel syniadau asgell dde eithafol .

Ymhlith y grwpiau rheiny sydd wedi cael eu gwahardd mae’r BNP (British National Party), yr EDL (English Defence League) a Britain First.

Ac mae Nick Griffin, arweinydd y BNP; Paul Golding a Jaya Fransen, arweinyddion Britain First; a’r aelod EDL, Paul Ray; ymysg y bobol sydd wedi cael eu gwahardd.

Mae Facebook hefyd wedi datgelu y byddan nhw’n dileu negeseuon o gefnogaeth at y grwpiau ac unigolion yma.

“Dim croeso”

“Does dim croeso i unigolion a chyrff sydd yn lledu casineb – neu ragfarnu yn erbyn pobol ar sail eu hunaniaeth – ar Facebook,” meddai llefarydd.

“Dan ein polisi ‘unigolion a chyrff peryglus’, rydym yn gwahardd y rheiny sydd yn ymgyrchu â chasineb, neu mewn modd treisgar.

“Mae’r unigolion a chyrff sydd wedi cael eu gwahardd heddiw yn gweithredu mewn ffordd sydd yn groes i’r polisi. Fydd dim hawl ganddyn nhw gael presenoldeb ar Facebook neu Instagram.”