Mae Ymerawdwr Japan wedi cynnal defod er mwyn hysbysu duwiau Shinto o’i fwriad i ildio’r goron.

Bydd Ymerawdwr Akihito, 85, yn camu o’r neilltu ar Ebrill 30, ac yn trosglwyddo’r awenau i Dywysog Naruhito ar Fai 1.

Dyma’r tro cyntaf ers 200 blynedd i ymerawdwr ar Japan ildio’r goron. Cafodd y ddefod ei chynnal yng Nghysegrfa Ise yng ngorllewin Japan.

Roedd pobol Japan yn arfer credu bod eu hymherodwyr yn ddisgynyddion o dduwies yr haul, Amaterasu.

Crefydd Japaneaidd yw Shinto sydd yn annog cyswllt cryf rhwng duwiau byd natur, bodau dynol a chyndeidiau.