Fe fydd 193 miliwn o bobol Indonesia yn gallu pleidleisio yn etholiad arlywyddol y wlad sy’n agor fory (dydd Mercher, Ebrill 17).
Bydd y bobol yn penderfynu pwy fydd yn arwain eu gwlad sy’n sefyll allan fel esiampl o ddemocratiaeth mewn ardal lawn llywodraethau awdurdodol.
Bydd y dewis rhwng cael pum mlynedd arall o ddatblygiad cyson maen nhw wedi gweld o dan eu harlywydd cyntaf y tu allan i’r grŵp Jakarta elitaidd; neu ethol ffigwr carismataidd ond anwadal o oes unbennaeth filwrol Suharto a ddaeth i ben ddegawd yn ôl.
Yng nghamau olaf yr ymgyrch aeth yr arlywydd Joko Widodo, sydd ar y blaen ar hyn o bryd, i Sawdi Arabia i gyfarfod ei frenin a pherfformio pererindod fach.
Ei gystadleuaeth yw Prawbowo Subianto sy’n cyn pennaeth ar y lluoedd arbennig o gyfnod o reoli awdurdodol dan Suharto.