Mae’r tân yn y gadeirlan enwog yng nghanol Paris, Notre Dame, bellach “o dan reolaeth”, yn ôl ymladdwyr tân.
Mae tristwch wedi ei fynegi ledled Ffrainc a’r byd ar ôl i dân mawr rwygo drwy’r gadeirlan hynafol.
Bu cannoedd o ymladdwyr tân yn ymladd â’r fflamau ers 6yh neithiwr (nos Iau, Ebrill 15) pan welodd drigolion dinas Paris to’r adeilad yn wenfflam.
Er bod y tân bellach o dan reolaeth, bydd ymdrechion yn cael eu cynnal yn ystod y dyddiau nesaf er mwyn sefydlogi’r adeilad.
Mae ymchwiliad hefyd ar y gweill er mwyn gwybod beth achosodd y tân, ond dyw’r awdurdodau ddim yn credu bod y tân wedi ei gynnau yn fwriadol.
Ail-adeiladu
Wrth ymweld â’r gadeirlan losgedig, fe ddywedodd Arlywydd Ffrainc, Emmanuel Macron, y bydd yna ymgyrch genedlaethol yn cael ei lansio er mwyn ail-adeiladu’r gadeirlan.
Mae adroddiadau hefyd fod y biliwnydd, Francois-Henri Pinault, wedi addo rhoi €100m (£86m) ar gyfer y gwaith adfer.
“Notre Dame yw ein hanes, ein dychymyg… ac yn ganolbwynt i’n bywydau,” meddai Emmanuel Macron.
“Dyma’r stori yn ein llyfrau, ein darluniau, ac mae’n gadeirlan i holl bobol Ffrainc, hyd yn oed os nad ydyn nhw erioed wedi ei hymweld.
“Ond mae’n llosgi, a dw i’n gwybod y tristwch sydd gan bob un o’n dinasyddion.”